Yn 2010 dewiswyd Strategaeth Dinas y Rhyl i redeg un o 11 safle ar gyfer rhaglen beilot newydd ‘Gwasanaeth Iach i Weithio’ yr Adran Gwaith a Phensiynau. Sefydlwyd y gwasanaeth i brofi’r honiad a wnaed yn adroddiad y Fonesig Carol Black sef Working for a Healthier Tomorrow, sef y byddai gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn cefnogi gweithiwyr mewn cyfnodau cynnar o absenoldeb oherwydd salwch o gyflwr iechyd ysgafn i ganolig i ddychwelyd i’r gwaith neu gynhyrchiant llawn. Y nod fyddai atal llithro i absenoldeb hirdymor oherwydd salwch. Wedi cynllun peilot llwyddiannus, cafodd Strategaeth Dinas y Rhyl gyllid Ewropeaidd i ehangu’r gwasanaeth. O 2010 hyd 2014 darparodd Gwasanaeth Iach i Weithio y Rhyl gymorth adsefydlu galwedigaethol i gyfanswm o 2439 o weithwyr a oedd yn sâl neu yn ei chael hi’n anodd yn y gwaith gyda chyflwr iechyd. Mae’r rhaglen wedi cael effaith barhaol ar yr unigolion y mae wedi eu cefnogi, gyda buddiolwyr yn gallu hunan-reoli eu hamodau iechyd sy’n cyfyngu eu gwaith ymhell y tu hwnt i’w cyfranogiad yn y gwasanaeth. Dewiswyd Gwasanaeth Iach i Weithio y Rhyl fel un o 17 yn y rownd derfynol yn Ngwobrau RegioStars 2015 yr Undeb Ewropeaidd, sy’n anrhydeddu prosiectau rhanbarthol mwyaf ysbrydoledig ac arloesol Ewrop.