Estynnwyd croeso cynnes i Gadeirydd newydd ein Bwrdd Gweithredol, yr Athro John Parkinson, yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol yn ddiweddar. Mae’r Athro Parkinson, Pennaeth Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, wedi cymryd rhan weithredol yng ngwaith RCS ers nifer o flynyddoedd. Mae’r Athro Parkinson yn cymryd lle’r Cadeirydd blaenorol, Celia Jones, sy’n symud ymlaen ar ôl gadael ei swydd fel Cyfarwyddwr Coleg Llandrillo, y Rhyl – byddwn yn gweld ei cholli. Roedd y cyfarfod hwn hefyd yn gyfle i gael clywed gan rai a oedd wedi cymryd rhan yn ein rhaglen newydd, Hwb!. Cawsom ein hysbrydoli wrth iddynt siarad am yr effaith y mae’r cwrs wedi ei gael ar eu bywydau. Bwriad Hwb! yw gwella cymhelliant, cadernid a lles. Cafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor.