Mae RCS a Able Futures yn dod ynghyd yr wythnos hon i lansio partneriaeth gyffrous ac arloesol i gefnogi llesiant emosiynol pobl mewn gwaith ledled Gogledd Cymru.

Ers iddo lansio yn 2015, mae Gwasanaeth Cyngor yn y Gwaith blaenllaw RCS a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) wedi cefnogi bron i 4000 o bobl gyflogedig neu hunangyflogedig sy’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch neu sydd mewn risg o ddod o’r gwaith oherwydd cyflwr iechyd sy’n effeithio arnynt yn y gweithle. Mae llwyddiant y gwasanaeth wedi’i seilio ar gyfuniad o therapïau sgwrsio, cyngor ymarferol a gwybodaeth ar reoli iechyd yn y gwaith ar amser a lle sy’n gyfleus i’r unigolyn. Mae’r gwasanaeth wedi’i dargedu yn bennaf at gyflogeion busnesau bach i ganolig lle mae’r cymorth iechyd galwedigaethol yn brin neu ddim yn bodoli, a lle mae staff yn debygol o golli cyflog petaent yn gorfod cymryd absenoldeb salwch.

Dywed Cyfarwyddwr Gweithredol RCS, Ali Thomas:

Mae effaith Cymorth yn y Gwaith dros y blynyddoedd wedi bod yn enfawr, i’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw yn ogystal â’u cyflogwyr.  Rydym yn wynebu galw cynyddol am y gwasanaeth, nid yn unig gan bobl sydd i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, ond hefyd gan bobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi yn y gwaith. Bydd ein partneriaeth newydd ag Able Futures yn galluogi mwy o bobl sy’n gweithio i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae Able Futures yn bartneriaeth arbenigol ledled y wlad a sefydlwyd i ddarparu’r Gwasanaeth Mynediad at Gymorth Iechyd Meddwl yn y Gwaith ar ran yr Adran Waith a Phensiynau. Nod Able Futures yw cefnogi pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl i gael mwy o ddyddiau da na rhai drwg. Darperir y gwasanaeth yng Nghymru gan Case-UK Ltd a gafodd ei sefydlu’n 2016 gan y cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol, Ian Benbow, sydd wedi dioddef o Iechyd Meddwl gwael ei hun yn dilyn profiad a newidiodd ei fywyd yn y gwaith.  Dywed Ian:

“Rydym ni i gyd yn byw a gweithio mewn byd ansicr lle gall unrhyw beth ddigwydd i unrhyw un mewn unrhyw le.  Wedi i mi gyrraedd uchelfannau ac iselfannau bywyd a gafodd effaith ar fy ngallu i ymdopi yn y gwaith, deuthum i ddeall ei bod hi’n iawn gofyn am gymorth yn ystod cyfnodau anodd. Bydd gweithio mewn Partneriaeth â RCS yn darparu preswylwyr yng Ngogledd Cymru â dull gweithredu cydlynol i gymorth iechyd meddwl yn y gweithle”.           

Bydd cysylltu’r gwasanaethau hyn fel model darpariaeth leol yn arwain at gynnig gwasanaeth gwell i nifer uwch o gyflogeion, gyda phwynt cyswllt sengl yn ei gwneud hi’n haws i Feddygon Teulu, gweithwyr proffesiynol eraill a chyflogwyr i gyfeirio pobl at y cymorth sydd ei angen arnynt.

Gall unrhyw unigolyn cyflogedig neu hunangyflogedig sy’n dymuno hawlio cymorth gysylltu â Chymorth yn y Gwaith, a fydd yn eu gwahodd i gyfarfod wyneb yn wyneb cychwynnol gydag aelod o’r tîm ymroddedig o gydlynwyr achos – gwrandawyr medrus a fydd yn helpu i roi ynghyd pecyn o gymorth teilwredig i fodloni anghenion unigolion. Bydd rhai cwsmeriaid angen y wybodaeth sylfaenol ynghylch eu hawliau a haeddiannau, efallai bod eraill angen cymorth gyda siarad â’u cyflogwr am gyflwr iechyd sy’n effeithio arnynt yn y gwaith, a gall eraill elwa o therapïau sgwrsio, naill ai’n unigol neu mewn grŵp. Bydd cydlynydd yr achos yn gwrando ar anghenion y cwsmeriaid ac yn eu harwain drwy’r opsiynau cymorth sydd ar gael. Bydd y bartneriaeth ag Able Features yn caniatáu i gymorth gael ei ehangu i nifer uwch o gyflogeion, gan gynnwys y rheiny o’r sector cyhoeddus.