Rydym yn falch iawn fod ein Gwobr Aur Iechyd y Gweithle Bach wedi ei ail-ddilysu yn dilyn ailasesiad ym mis Chwefror 2018. Y wobr yw’r nod ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles, ac mae’n fesur o ymrwymiad y sefydliad i les yn y gweithle. RCS oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Aur Iechyd y Gweithle Bach yn dilyn lansio’r cynllun yn 2009.