GWEITHIO GYDA NI

Ein gweithwyr

Ein gweithwyr yw ein hased mwyaf gwerthfawr. Rydym yn buddsoddi mewn iechyd a lles staff, fel y dengys ein Gwobr Aur Iechyd y Gweithle Bach. Mae ein harferion gweithio hyblyg yn caniatáu i staff gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Cynigiwn fuddion hael, gan gynnwys 30 diwrnod o wyliau’r flwyddyn yn ogystal â gwyliau banc, cyfraniad cyflogwr at bensiwn, a thâl am amser i ffwrdd o’r gwaith am resymau teuluol neu salwch. Rydym yn aelodau o’r Living Wage Foundation, ac yn ymroi i sicrhau bod ein holl staff yn derbyn cyflog y gallant fyw arno. Darparwn gyfleoedd parhaus ar gyfer dysgu a datblygu staff, ac rydym yn sicrhau bod staff yn cael cyfle i gyfrannu wrth wneud penderfyniadau. Nid yw staff yn ein gadael, ond o bryd i’w gilydd mae angen i ni recriwtio, felly cadwch lygad allan am ein swyddi gwag isod.

Aelodau Cyswllt​

Mae RCS yn gweithio gyda thîm o ddarparwyr medrus a phrofiadol i ddarparu ein gwasanaethau a therapïau. Cysylltwch â recruitment@rcs-wales.co.uk i dderbyn hysbysiadau am unrhyw gyfleoedd newydd, sydd hefyd yn cael eu hysbysebu isod.

 

Ar hyn o bryd nid oes swyddi gwag ar gael.

Dydw i erioed wedi gweithio i sefydliad sy’n rhoi lles uwchlaw popeth arall, sydd, yn ei dro, yn caniatáu i’n staff ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleientiaid.

Rwy’n falch iawn fy mod wedi gwneud cais ac wedi cael y swydd. Rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn amgylchedd lle gallaf wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rydw i mor frwd dros y gwaith mae RCS yn ei wneud. Gallaf siarad amdanynt yn ddiddiwedd.

Mae RCS yn buddsoddi amser ac adnoddau i sicrhau bod staff yn cael pob cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau llesiant, ac i gael mynediad cyfrinachol a hawdd at gymorth gan gymheiriaid/rheolwr llinell neu gymorth annibynnol os oes angen.

Rydw i’n teimlo bod pobl yn ymddiried ynof i weithio’n unol ag amserlen hyblyg, cymryd y nifer priodol o egwyliau, cysylltu â’m cydweithwyr ac arweinydd y tîm yn rheolaidd i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd yn unigol ac ar y cyd i roi’r profiad gorau i’r rheini rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.