Astudiaeth Achos Gweithiwr: Cymorth yn y Gwaith

Astudiaeth Achos Gweithiwr: Cymorth yn y Gwaith

Cysylltodd Chrissie Diesel o Ruthun â’n Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith am help pan sylwodd ei bod yn cael trafferth i addasu i ofynion bywyd fel milfeddyg ar ôl graddio o Brifysgol Lerpwl.

Cafodd deimladau o bryder ar ei diwrnod cyntaf yn milfeddygfa brysur Wern yn Rhuthun, er nad oedd hi’n gwybod beth oeddent ar y pryd. I ddechrau arni parhaodd Chrissie i weithio drwy’r pryderon a daeth yn filfeddyg poblogaidd gyda chleientiaid a chydweithwyr. Ond parhaodd i fod eisiau cyfogi, a dechreuodd gael ‘amheuon cyson’ ynglŷn â pha un a oedd hi’n addas i’r swydd.

“Rwy’n filfeddyg da ac nid oedd fy mherfformiad yn dioddef ond roedd yn newid mawr,” eglurodd Chrissie. “Roedd rhan ohonof yn dweud ‘hei, tyd ‘laen newydd ddechrau wyt ti’, ond roedd rhywbeth arall yn dweud wrthyf efallai nad oeddwn yn ddigon da.”

Dros amser, dechreuodd Chrissie deimlo fel pe bai ei gwydnwch a’i hyder yn gwegian wrth i’w lefelau o bryder gynyddu. Yn y diwedd aeth Chrissie i weld ei meddyg teulu, a ddywedodd wrthi am Wasanaeth Cymorth yn y Gwaith RCS.

“Roedd mor hawdd a phroffesiynol,” dywedodd Chrissie, “Eisteddais gyda Hayley a siaradom am fy sefyllfa a gweithiom allan pa therapydd fyddai orau i mi. Cefais chwe sesiwn am ddim – roedd yn wych a beth oeddwn wedi bod yn ei ddisgwyl amdano.”

Gan gydweithio â’i therapydd roedd Chrissie yn gallu adnabod ei phryderon a sut y gallai ddelio â nhw. Mae’r gwahaniaeth y mae’r cynllun wedi ei wneud i’w bywyd gwaith, meddai Chrissie, yn rhyfeddol.

“Ni fyddwn byth wedi rhoi’r gorau i fod yn filfeddyg, ond rwy’n credu y byddwn wedi datblygu’n berson anhapus iawn pe na bawn wedi cael cymorth.

“Rwyf yr un person ag yr oeddwn cynt, ond gallaf bellach gamu’n ôl o sefyllfa a delio â hi yn anadweithiol. Pan mae hi’n dod i fy swydd, rwy’n mwynhau’r heriau a oedd yn arfer fy nychryn ac mae gennyf bellach yrfa fel milfeddyg sy’n fy nghyffroi yn hytrach na fy llethu, sy’n wych.”

Mae’r ferch bump ar hugain oed a’i dyweddi Huw Bill wedi gofyn am roddion i RCS yn hytrach nag anrhegion priodas pan fyddant yn priodi ym mis Gorffennaf. Mae hi’n gobeithio y bydd yr arian a gesglir ar gyfer ei phriodas yn galluogi mwy o bobl i gael y cymorth sydd eu hangen arnynt i aros yn y gwaith.

Astudiaeth Achos Cyflogwr - Cymorth yn y Gwaith

Mae Debbie Williams, Rheolwr Cartref Preswyl Bron Haul yn y Rhyl, wedi mynychu nifer o’n gweithdai hyfforddiant i gyflogwyr er mwyn dysgu technegau ar gyfer rheoli straen, i’w defnyddio ganddi a’i thîm o staff.

O’r gweithdai, dysgodd Debbie ystod o arfau a thechnegau ymarferol ar gyfer gwella lles yn y gweithle. Roedd hi’n gallu cyflwyno cyfres o fesurau lles sydd bellach wedi cael eu hymgorffori yn arferion y gweithle ym Mron Haul. Mae’r rhain yn cynnwys ‘cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith’, digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, a chynllun gwobrwyo ‘Gofalwr y Mis’. Caiff staff eu cynghori ynglŷn â sut i atgyfeirio eu hunain at Wasanaeth Cymorth yn y Gwaith os oes angen cymorth un-i-un arnynt.

Dywedodd Debbie fod y gweithdai wedi bod yn effeithiol iawn yn ei helpu i werthfawrogi pwysigrwydd lles wrth alluogi timau i gydweithio’n fwy effeithiol. Mae hi wedi sylwi ar welliannau clir yn iechyd a lles y gweithle o ganlyniad i’r newidiadau a gyflwynwyd:

“Rwy’n teimlo bod staff yn fwy agored i drafod eu lles ac yn teimlo’n well am agor allan. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y ‘cyfarfod lles misol’ a ‘gofalwr y mis’.”

Dywedodd hefyd fod arddull a fformat cyflwyno’r cwrs hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cyflogwyr prysur sy’n ceisio blaenoriaethu eu hamser:

“Dysgom lawer – roedd dull cyflwyno’r cwrs yn drawiadol iawn ac roedd cael sesiynau byr mor fuddiol.”

Astudiaeth Achos Gweithiwr: Cymorth yn y Gwaith

Roedd Stephen Thomas wedi bod yn gweithio fel gyrrwr lorri cyn i gyflwr poenus olygu na allai godi o’i wely a gweithio am dri mis.

Cofrestrodd Stephen gyda’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ac fe’i hatgyweiriwyd yn gyflym i gael asesiad ffisiotherapi. O fewn mis o ddechrau cael triniaeth, roedd Stephen yn ôl y tu ôl i lyw ei lorri.

Dywedodd Stephen: “Dechreuais gael poen cefn ddiwedd mis Ionawr 2017 ond fel pob dyn arall anwybyddais y boen. Roeddwn yn meddwl y byddwn yn iawn felly penderfynais beidio â mynd i weld y meddyg.

“Yna ym mis Mehefin roeddwn wedi cyrraedd pen fy nhennyn. Nid oeddwn yn gallu gweithio mwyach ac roedd y boen yn gwneud i mi deimlo’n sâl.

“Nid oeddwn erioed wedi colli gwaith yn fy nydd ac ni allai fy nghyflogwyr gredu’r peth pan ddywedais na fyddwn yn gallu dod i mewn. Roedd fy nghyflogwyr yn gydymdeimladol iawn a chefais dâl salwch ond nid oeddwn yn gallu cerdded, nid oeddwn yn gallu codi o’r gwely, nid oeddwn hyd yn oed yn gallu plygu i lawr i roi fy hosanau.

“Cefais fy anfon i’r ysbyty a chefais nifer o sganiau – aeth y profion hyn ymlaen am wythnosau ac wythnosau.

“Dyna pryd wnaethant awgrymu i mi siarad â RCS. Cefais gyfweliad a dywedasant wrthyf gallwn dy helpu. Cynhaliodd eu therapydd chwe sesiwn driniaeth ar fy nghyhyrau ac erbyn mis Medi roeddwn yn ôl yn y gwaith.

“Rwyf wedi newid y ffordd yr wyf yn gwneud llawer o bethau erbyn hyn gan gynnwys y ffordd yr wyf yn codi pethau. Rwy’n gwneud ymestyniadau gwahanol gartref yn ogystal ag ymarferion ar y penwythnos ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn cael sociad hir yn y bath i helpu fy nghyhyrau.

“Byddwn 100% yn annog unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg i gysylltu â RCS. Yn ôl pob tebyg ni fyddwn yn ôl yn y gwaith nawr oni bai am eu help.