Cwrs hwyliog a rhyngweithiol yw Hwb!, sydd wedi’i anelu at adeiladu cadernid, cymhelliant, hyder a chyflogadwyedd.

Mae Hwb! yn darparu ystod o arfau a thechnegau o’r maes seicoleg gadarnhaol a newid ymddygiad i gyfranogwyr er mwyn eu helpu i ddatblygu hunanhyder a goresgyn rhwystrau.

Mae’r cwrs Hwb! yn cael ei gyflwyno i grwpiau bychain mewn amgylchoedd cymunedol anffurfiol a hamddenol.

Fel rheol caiff Hwb! ei gyflwyno dros un neu ddau ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o 4-6 wythnos ond gellir ei deilwra i fodloni anghenion unigol.

Datblygwyd Hwb! drwy gydweithio’n agos ag Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Cwrs hwyliog a rhyngweithiol yw Hwb!, sydd wedi’i anelu at adeiladu cadernid, cymhelliant, hyder a chyflogadwyedd.

Mae Hwb! yn darparu ystod o arfau a thechnegau o’r maes seicoleg gadarnhaol a newid ymddygiad i gyfranogwyr er mwyn eu helpu i ddatblygu hunanhyder a goresgyn rhwystrau.

Mae’r cwrs Hwb! yn cael ei gyflwyno i grwpiau bychain mewn amgylchoedd cymunedol anffurfiol a hamddenol.

Fel rheol caiff Hwb! ei gyflwyno dros un neu ddau ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o 4-6 wythnos ond gellir ei deilwra i fodloni anghenion unigol.

Datblygwyd Hwb! drwy gydweithio’n agos ag Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor.

Ar hyn o bryd, rydym yn darparu Hwb! i gyfranogwyr sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir ar y rhaglen Cymunedau am Waith drwy Gronfa Arloesi Llywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae’r cwrs wedi helpu chwarter o’r cyfranogwyr i gael gwaith.

Dyma ddywedodd rai o’r unigolion sydd wedi dilyn y cwrs:

“Mae cwrs Hwb! wedi cael effaith fawr ar fy mywyd ac wedi meithrin agwedd ‘galla i ei wneud’ ynof.”

“Dwi wedi cael cymaint allan o’r cwrs hwn. Mae wedi rhoi imi’r cymhelliant, y brwdfrydedd a’r agwedd gadarnhaol i symud ymlaen. Dwi bellach yn teimlo’n ddigon hyderus i allu newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.”

“Teimlwch yr ofn a gwnewch o beth bynnag. Gall newid eich bywyd os gwnewch chi’r ymdrech.”

“Does dim anfantais i’r cwrs – rhowch gynnig arno!”

Mae RCS yn falch o fod yn gweithio ag Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ar eu hymchwil ym maes seicoleg gadarnhaol, sy’n edrych ar wella cadernid a hyrwyddo ansawdd bywyd gwell drwy adeiladu ar gryfderau personol. Rydym ar hyn o bryd yn darparu nawdd i fyfyriwr PhD Kate Isherwood drwy’r Rhaglen KESS 2 (Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth) a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae’r ymchwil yn edrych ar sut mae seicoleg gadarnhaol sy’n canolbwyntio ar waith yn effeithio ar gyflogadwyedd.

I gael rhagor o wybodaeth am Hwb! neu ddarganfod pryd y cynhelir y cwrs yn eich ardal cysylltwch â ni ar 01745 336442 neu hello@rcs-wales.co.uk <mailto:hello@rcs-wales.co.uk>.