DATGANIAD PREIFATRWYDD RCS

Pam y gofynnir am fy ngwybodaeth bersonol?

Mae RCS wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a gwneud pob ymdrech i sicrhau y prosesir eich gwybodaeth bersonol mewn modd teg, agored a thryloyw.

Rydym yn “rheolydd data” at ddibenion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 (“Deddfwriaeth Diogelu Data”). Golyga hyn ein bod yn gyfrifol am brosesu eich gwybodaeth bersonol.

 Dim ond am yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddarparu contract a sicrhau cyllid i’ch cefnogi, y byddwn yn gofyn – byddwn yn egluro pam ein bod yn dymuno casglu eich data.  Rydym yn trin ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

 Pan fyddwn yn cofnodi a defnyddio eich gwybodaeth bersonol:

  • byddwn yn ei cheisio dim ond pan fydd gennym reswm da dros wneud hynny
  • byddwn yn ei rhannu dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol a pherthnasol
  • ni fyddwn yn ei gwerthu i unrhyw un

Pa wybodaeth bersonol y mae RCS yn ei chasglu?

Bydd yr wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar ba un o’n gwasanaethau rydych yn ei ddefnyddio. 

 Dim ond am wybodaeth sy’n berthnasol y byddwn yn gofyn. Yn dibynnu ar beth ydych eisiau cymorth gyda, gallai hyn gynnwys:

  • eich enw a manylion cyswllt – fel y gallwn gadw mewn cysylltiad â chi am eich achos
  • manylion cyflogaeth, e.e. (enw’r cyflogwr, galwedigaeth, nifer yr oriau a weithir, manylion cyswllt)
  • manylion am eich iechyd ac unrhyw gymorth y gallech fod yn ei dderbyn
  • manylion am unrhyw faterion perthnasol eraill – megis eich amgylchiadau ariannol
  • gwybodaeth fonitro fel eich rhywedd, ethnigrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol

 Mae rhai cwestiynau yn rhoi’r opsiwn i chi beidio â datgelu gwybodaeth benodol.

 Yn dibynnu ar ba un o’n gwasanaethau rydych yn ei ddefnyddio, efallai y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth benodol fel tystiolaeth o’ch cymhwysedd i gael mynediad at gymorth.

Ar gyfer beth y defnyddir fy ngwybodaeth bersonol?

Y prif reswm rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol yw er mwyn darparu cymorth effeithiol i chi. 

 Gall hyn gynnwys

  • Gwirio eich bod yn gymwys am ein gwasanaethau
  • Gallu aros mewn cysylltiad â chi tra’r ydych yn derbyn cymorth
  • Gwneud atgyfeiriadau i randdeiliaid neu bartneriaid i ddarparu gwasanaethau i chi
  • Cadw manylion am y cymorth rydych yn ei dderbyn

 Dim ond os bydd gwir angen i ni wneud hynny y byddwn yn ceisio gwybodaeth arall gennych – er enghraifft:

  • at ddibenion ansawdd a hyfforddiant
  • i ymchwilio i gwynion
  • i gael adborth gennych am ein gwasanaethau
  • i’n helpu i wella ein gwasanaethau

    A ydych chi'n rhannu fy ngwybodaeth bersonol â sefydliadau eraill?

    Efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill sydd ynghlwm â’ch cymorth, er enghraifft:

    • Eich atgyfeirio at therapi iechyd gydag un o’n darparwyr
    • Eich helpu i gael mynediad cyflym at gymorth neu gyngor arbenigol gan un o’n sefydliadau partner lle bo’n berthnasol e.e. cyngor ariannol

     Mae rhai rhaglenni a ariennir gan y llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni rannu data cleientiaid at ddibenion archwilio – os yw hyn yn berthnasol i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi fel rhan o’r broses gofrestru.

    Rhaid i sefydliadau rydym yn rhannu eich data â nhw, gadw a defnyddio eich gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Bydd ganddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain ynglŷn â sut maent yn delio â’ch gwybodaeth a’i chadw’n ddiogel.

    Ni fyddwn yn pasio eich manylion personol ymlaen i unrhyw un arall heb eich caniatâd penodol chi ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys unrhyw un sy’n hunan-niweidio’n ddifrifol neu’n fygythiad i eraill.

    Gwybodaeth ystadegol

    Rydym yn defnyddio ychydig o wybodaeth i greu adroddiadau ystadegol ynglŷn â faint o bobl ydym yn eu helpu a dangos y gwahaniaeth mae’r gwasanaeth yn ei wneud. Ni fydd yn bosib eich adnabod o’r wybodaeth hon. 

     Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth ystadegol hon â chyllidwyr, adrannau’r llywodraeth ac yn gyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn datganiadau i’r wasg. Defnyddir yr wybodaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol yn unig.

    Sut y cedwir fy ngwybodaeth bersonol yn ddiogel?

    Mae gennym fesurau technegol a gweithredol ar waith i wneud yn siŵr y cedwir eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Rydym bob amser yn defnyddio rhwydweithiau diogel os oes angen i ni rannu eich data yn electronig.

    Mae ein holl staff yn derbyn hyfforddiant diogelu data i wneud yn siŵr y caiff eich gwybodaeth ei thrin yn sensitif a diogel.

    Am ba mor hir y cedwir fy nata personol?

    Caiff gwybodaeth bersonol ei chadw am 6 mlynedd neu am gyn hired ag y mae ein cyrff cyllido yn gofyn i ni ei chadw, pa bynnag un sydd hiraf.  Yn dilyn yr amser hwn, bydd y data yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.

    Beth yw fy hawliau?

    Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg a gofyn i ni:

    • pa wybodaeth ydym yn ei chadw amdanoch
    • newid neu ddiweddaru eich manylion
    • dileu eich manylion o’n cofnodion

    Os hoffech wneud cais o’r fath ysgrifennwch at Pennaeth Gweithrediadau RCS gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod a gallwch ddisgwyl ymateb o fewn 30 diwrnod.

    Os oes gennych bryder am y data personol a gesglir neu’r ffordd y casglwyd y data gallwch godi’r mater gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.  Dyma gyfeiriad eu gwefan www.ico.org.uk

    Sut i gysylltu â RCS

    Gallwch gysylltu â RCS ar 01745 336442 neu drwy e-bostio hello@rcs-wales.co.uk

    Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9:30am tan 4:30pm, ac o 9:30am tan 4:00pm ar ddydd Gwener.

    Cwmni Buddiant Cymunedol Strategaeth Dinas y Rhyl
    Yr Hwb, 69-71 Ffordd Wellington, y Rhyl,
    Sir Ddinbych LL18 1BE
    Rhif cofrestru’r cwmni 6560162

    COOKIES

    Cwci Enw Diben
    rcs-wales.co.uk wordpress_test_cookie Yn gwirio a yw’r cwcis wedi eu caniatáu ar y porwr
    rcs-wales.co.uk pll_language Yn storio gosodiadau iaith
    rcs-wales.co.uk dsm-load-popup-cookie-28187 Yn storio caniatâd cwci
    rcs-wales.co.uk pum-28557 Yn atal y cofrestriad cylchlythyr rhag llwytho dro ar ôl tro
    Universal Analytics (Google) _ga _gat _gid Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth ynghylch y ffordd mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn modd na fydd yn gallu adnabod neb yn uniongyrchol, yn cynnwys y nifer o ymwelwyr i’r wefan a’r blog, o ble daeth yr ymwelwyr i’r wefan a’r tudalennau y gwnaethant ymweld â hwy.
    Google Doubleclick IDE Defnyddir gan Google Doubleclick i gofrestru gweithgareddau defnyddwyr y wefan ac adrodd arnynt ar ôl iddynt edrych neu glicio ar unrhyw hysbyseb gan yr hysbysebwr gyda’r pwrpas o fesur effeithiolrwydd yr hysbyseb a chyflwyno hysbysebion a dargedir i’r defnyddwyr.
    Google Doubleclick test_cookie Yn gwirio a yw’r cwcis wedi eu caniatáu ar y porwr
    youtube.com CONSENT, GPS, LOGIN_INFO, VISITOR_INFO1_LIVE, YSC, remote_sid Rydym yn ymgorffori fideos o sianel YouTube RCS gan ddefnyddio modd preifatrwydd uwch YouTube. Mae’n bosib y gwnaiff y modd hwn osod cwcis ar eich cyfrifiadur unwaith y byddwch yn clicio ar chwaraewr fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth cwci sy’n adnabyddadwy’n bersonol ar gyfer ail-chwarae fideos sydd wedi eu hymgorffori wrth ddefnyddio‘r modd preifatrwydd uwch.